top of page

Am y gwaith celf

Mae Gustavius ​​Payne yn cael ei gynrychioli gan Ffin-Y-Parc. Gwaith hefyd ar gael yn orielau Lion Street Gallery, Fountain Fine ArtWater Street Gallery. Celfwaith ar gael drwy gydol y flwyddyn.

 

"Mae'r paentiadau yma'n llawn o gyfeiriadau crefyddol, at chwedlau, llen gwerin a'n hanes gymunol. Felly mae yna storiau a symbylau cyfarwydd sy'n ein tywys; a cynddelweddau sy'n sbarduno ymatebion emosiynnol cyntefig a greddfol. Ei allu hudol arbennig yw creu adweithiau sy'n rhaeadru trwy nifer o syniadau a chrybwylliaid er mwyn ein tynnu tuag at deimladau anghyfarwydd ac anghyfforddus.

"Mae e'n ymwybodol o'r tyndra a'r gwrthddywediad potensial rhwng yr elfennau ymenyddol a greddfol, ond mae cyplysiad y cyffredinol gyda'r hyn sy'n bersonol ac yn gynhenid, yn creu gwaith sy'n llawn o ymrwymiad, difrifwch ac angerdd.

 

"Mae'r cyfeiriadau cyfoes yn y lluniau yn datgelu artist sy'n mynnu ymdrin a'i gymdeithas - ei hanes a'i ddyfodol. Gall hyn rhoi blas egr, dychanol i'r gwaith. Mae ei fyd yn un sy'n fodern, ond hefyd yn glasurol. Dyma tynerwch a trais. Dyma tosturi ac anobaith, cariad a chywilydd."

 

Ffin-Y-Parc

 

bottom of page